Ymweliad Rhithiol

Y 1960au: Gweithdy Rhithiol

Sut brofiad oedd byw yng Nghymru yn y 1960au, a beth oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd? Mewn fideo cyn y sesiwn, dewch i gwrdd a Huw yn Rhif 1, Fron Haul, ar ddiwedd 1969 wrth iddo edrych yn ôl dros ddegawdd gyffrous a chythryblus. Bydd Huw yn trafod rhai o straeon newyddion mawr y chwedegau yng Nghymru a’r byd, ac yn sôn am ei brofiad fel person ifanc yn y cyfnod yma.

Bydd cyfle wedyn i drin a thrafod gyda hwylusydd dros Teams, fydd  yn dangos pob math o wrthrychau diddorol er mwyn dysgu mwy am fywyd pob dydd yn y cyfnod. Cewch hefyd grwydro o gwmpas y tŷ 1969 yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg 360Scan.

I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3702

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

  • y Dyniaethau
  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702

Adnoddau