Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Delwedd o dudalen sampl o bennod ‘Rhyfelwyr’ yn adnodd e-lyfr Duwiau a Rhyfel.
Bydd yr adnoddau rhyngweithiol hyn yn eich galluogi i archwilio byd y Celtiaid yng Nghymru Oes yr Haearn. Mae’r ddau adnodd wedi’u rhannu yn ddau e-lyfr: Bywyd Bob Dydd y Celtiaid a Duwiau a Rhyfel.
Mae’r llyfrau yn llawn lluniau o wrthrychau Oes yr Haearn a chwisiau rhyngweithiol i’ch helpu i ddysgu mwy am fywyd y Celtiaid.
Mae’r e-lyfr hwn yn edrych ar y themâu a’r pynciau hyn:
Pwy oedd y Celtiaid a sut ydyn ni’n gwybod am Oes yr Haearn?
Bryngaerau a thai Oes yr Haearn
Dillad a gemwaith Oes yr Haearn
Bwyd Oes yr Haearn
Bywyd yn Oes yr Haearn.
Cliciwch yma i weld fersiwn ar-lein o’r e-lyfr. Gallwch ei ddarllen ar unrhyw ddyfais.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn iBook i declynnau Apple.
Celf Oes yr Haearn
Crefydd Oes yr Haearn
Llwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn
Rhyfelwyr Celtaidd
Goresgyniad y Rhufeiniaid
Dyma bigion o’r llyfrau i roi syniad i chi o’r cynnwys.
Roedd y Celtiaid yn rhannu crefydd, iaith a chelfyddyd debyg. Roedden nhw’n byw yn Oes yr Haearn, mewn llefydd fel Prydain, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen a Sbaen. Ein henw ni arnyn nhw yw’r Celtiaid. Roedden nhw’n cynnwys llawer o wahanol grwpiau.
Enw’r Rhufeiniaid ar y bobl Geltaidd ym Mhrydain oedd Pretani. Ystyr hyn yw pobl wedi’u paentio. Brythoniaid yw’r enw Cymraeg.
Cliciwch yma i weld y bennod berthnasol yn yr e-lyfr.
Tai crwn to gwellt oedden nhw.
Byddai’r waliau’n cael eu gwneud o wahanol ddeunyddiau. Plethwaith a dwb oedd y defnydd mwyaf poblogaidd. Ffens bren yw plethwaith a cymysgedd o glai a baw anifeiliaid yw dwb! Roedd gan rai tai waliau cerrig. Roedd gan rai waliau trwchus o glai.
Anaml iawn mae archaeolegwyr yn canfod dillad o Oes yr Haearn. Byddai dillad yn cael eu gwneud o wlân, lliain, crwyn anifeiliaid a lledr.
Roedd broets yn addurn cyffredin. Byddai’n pinio dillad gyda’i gilydd ac yn dangos i bobl pwy oeddech chi.
Roedd gleiniau gwydr yn cael eu defnyddio i wneud mwclis, breichledau neu swyndlysau.
Byddai pobl bwysig yn gwisgo coler neu fwclis efydd wedi'i addurno o'r enw torch. Roedd torchau yng Nghymru yn cael eu gwneud o efydd.
Yr enw ar blanhigion mae ffermwyr yn eu tyfu yw cnydau. Gwenith oedd un o gnydau pwysicaf Oes yr Haearn. Mae’n gnwd defnyddiol iawn. Gall y grawn gael ei falu’n flawd i wneud bara.
Dau o gnydau pwysig Oes yr Haearn oedd ceirch a barlys. Roedd ceirch yn cael eu defnyddio i wneud uwd a bara ceirch. Roedd barlys yn cael ei ddefnyddio i wneud cwrw.
O ffermydd oedd y rhan fwyaf o fwyd Oes yr Haearn yn dod, ond roedd bwyd gwyllt ar gael hefyd. Roedd rhain yn cynnwys madarch, danadl poethion, cnau, aeron ac afalau surion.
Cig anifeiliaid fferm oedd y cig mwyaf cyffredin yn Oes yr Haearn. Roedd pobl yn bwyta cig gwartheg, defaid, geifr a moch. Y baedd a’r carw oedd y prif anifeiliaid gwyllt oedd yn cael eu hela i’w bwyta.
Ffermwyr oedd y rhan fwyaf o bobl Oes yr Haearn ond bydden nhw hefyd yn gwneud crefftau cyffredin. Roedd rhain yn cynnwys gwaith coed, a gwneud basgedi, dillad a photiau clai.
Gof yw’r enw ar rywun sy’n gwneud pethau o haearn. Yn Oes yr Haearn roedd y gof yn bwysig iawn.
Mae troell yn symbol cyffredin iawn mewn celf Geltaidd. Mae’r trisgell – sef tri troell yn un – i’w weld ar lawer o wrthrychau o Oes yr Haearn.
Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw ystyr y trisgell. Efallai ei fod yn sefyll am:
Enedigaeth, Bywyd a Marwolaeth
Y Byw, y Marw, a‘r Duwiau
Daear, Tân, Dŵr
Tri Duw
Roedd y derwyddon yn bobl bwysig iawn – fersiwn Oes yr Haearn o offeiriad, doctor, barnwr a gwleidydd. Roedd pobl yn credu y gallai’r derwyddon siarad â duwiau ac ysbrydion. Dywedodd y Rhufeiniaid fod y derwyddon yn aberthu anifeiliaid a dynion mewn coedwigoedd sanctaidd. Roedd y Rhufeiniaid yn credu bod y derwyddon yn beryglus, ac yn bwysig i drefnu rhyfel.
Y Rhufeiniaid ysgrifennodd y dystiolaeth am lwythau Prydain. Y tri prif awdur oedd Tacitus, Ptolemy a Cassius Dio. Dim ond am lwythau diwedd oes yr Haearn mae nhw’n siarad.
Y prif lwythau y gwyddon ni amdanyn nhw yw’r Deceangli, y Demetae, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid. Mae dau lwyth llai hefyd, sef y Gangani a’r Octapitae.
Roedd rhyfelwyr yn gwarchod pobol eu llwyth. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid bydden nhw’n ymladd llwythau eraill.
Roedd rhyfelwyr yn bwysig iawn ym Mhrydain Oes yr Haearn. Roedd eu hoffer yn werthfawr, a llawer o amser yn cael ei roi i addurno’r offer.
Byddai rhai rhyfelwyr yn gyrru ar draws maes y gad yn gwneud llawer o sŵn i ddychryn y gelyn ac yn taflu gwaywffyn.
Dechreuodd y Rhufeiniaid oresgyn Prydain yn y flwyddyn OC 43. Dechreuodd goresgyniad Cymru yn OC 47. Wnaeth llwythau Cymru ddim ildio’n hawdd. Fe gymerodd hi tan OC 78 i’r Rhufeiniad oresgyn Cymru gyfan.
Mae Cymru wedi bod yn lle anodd ei oresgyn erioed. Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, roedd mwy na rhyfelwyr ffyrnig i ddelio â nhw.
Mae Cymru’n llawn mynyddoedd. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i’r Rhufeiniaid deithio’n gyflym drwy Gymru.
Defnyddiai rhyfelwyr Cymru ddulliau ymladd guerrilla. Yn lle un brwydr fawr, bydden nhw’n trefnu sawl ymosodiad bach. Yn aml bydden nhw’n ymosod ac yn dianc yn gyflym i ddiogelwch y mynyddoedd a’r coedwigoedd.
Sampl yn unig o’r wybodaeth a ddarperir yn y llyfr yw hyn. I ddysgu mwy am Oes yr Haearn ac archwilio casgliad Oes yr Haearn Amgueddfa Cymru, cliciwch ar y dolenni ar dop y dudalen.
Cliciwch yma i ddarllen erthygl am y Celtiaid wedi’i hysgrifennu gan yr adran Archaeoleg.