Gweithdy Amgueddfa
Sesiwn Arfau ac Arfwisg
Ymunwch ag un ô'n hwyluswyr Rhufeinig am sesiwn yn edrych ar fywyd un o lengfilwyr Rhufeing yn yr Ail Leng Awgwstaidd yng Nghaerllion, bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Dysgwch am yr arfau, yr arfwisg a'r offer fyddai'n cael eu defnyddio a gweld y replicas gwych yn yr Amgueddfa.
Sesiynau hunan-hwyluso:
- Ymweliad ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru lle gall y disgyblion. Astudio'r casgliadau Rhufeinig real yn yr oriel a gweld gardd Rufeinig go iawn. Gwisgo lifrai llengfilwr mewn model o Ystafell Barics a phrofi bywyd milwr Rhufeinig.
- Ymweliad â'r Baddondai Rufeinig i weld sut fyddai'r Rhufeiniaid yn ymolchi ac ymlacio ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
- Ymweliad â'r Amffitheatr a'r Barics – i weld gweddillion amffitheatr fwyaf cyflawn Prydain a'r unig farics llengol i'w weld yn Ewrop!
Mae ymweliadau ysgol ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 10:15 a 14:15, gan gynnwys lle i fwynhau cinio.
I ddysgu mwy am y dyddiadau sydd ar gael a'r costau, e-bostiwch addysg.rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys enw'r ysgol, nifer y disgyblion, oed y dosbarth a'ch dyddiadau delfrydol.
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk