Gweithdy Rhithiol
Amser Golch (Gweithdy Rhithiol)
Sut brofiad oedd gorfod golchi a sychu dillad cyn i ni gael peiriannau golchi a thrydan? Dewch i gwrdd â Marged i ddarganfod sut oedd hi’n golchi dillad ers talwm. Byddwch yn cael ei gwylio’n defnyddio’r twb golchi, y bwrdd sgwrio a’r mangl, yna’n cael cyfle i drin a thrafod efo’n hwylusydd, yn ogystal â gweld rhai o’r gwrthrychau’n agos. Tybed beth wnewch chi ddarganfod sydd wedi newid a beth sydd wedi aros yr un peth?
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3424
Hyd:
1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
- y Dyniaethau
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
![](/media/54467/Virtual-Washday.png)
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk