Gweithdy Rhithiol
Chwilfrydig am Ddeinosoriaid? (Gweithdy Rhithiol)
Oedd pob deinosor yn rhuo? Ymunwch ag un o'n hwyluswyr ar-lein i edrych ar ffosilau amgueddfa go iawn. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau chwilfrydig a dysgu mwy am ddeinosoriaid, gan gynnwys beth fydden nhw'n ei fwyta, sut fydden nhw'n byw, eu hamgylchfyd a'u cynefinoedd. I gloi, gallwch chi gymryd rhan mewn stori fywiog, swnllyd, am fforest yn oes y deinosoriaid.
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk
Hyd:
1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
- Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
![](/media/54500/Virtual-Fossils--Footprints.png)
![](/media/55597/thumb_1600/DSC_8761-1.jpg)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk