Ymweliad Rhithiol
Gweithdy Rhithiol: Chwilfrydig Am Gelf
Ymunwch â ni mewn sesiwn ryngweithiol yn cyflwyno rhai o’r gweithiau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddwn yn edrych ar baentiadau, cerameg, ffotograffau a cherfluniau. Mae hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac archwilio lliw, siâp a maint drwy gyfrwng celf. Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau yn cynnwys creu eich gwaith celf siâp a lliw eich hun.
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk
Hyd:
1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
- Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk