Ymweliad Rhithiol

Gweithdy Rhithiol: Chwilfrydig Am Gelf

Ymunwch â ni mewn sesiwn ryngweithiol yn cyflwyno rhai o’r gweithiau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddwn yn edrych ar baentiadau, cerameg, ffotograffau a cherfluniau. Mae hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac archwilio lliw, siâp a maint drwy gyfrwng celf. Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau yn cynnwys creu eich gwaith celf siâp a lliw eich hun. 

I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk