Ymweliad Rhithiol

Gweithdy Rhithiol: Archwilio Celf

Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r orielau celf gyda ffocws ar gelf ac artistiaid Tirlun Cymru. Bydd dysgwyr yn ystyried sut mae tirwedd Cymru wedi ysbrydoli artistiaid. Byddwch yn dadansoddi tirluniau Cymreig, yn cwestiynu tystiolaeth ac yn datblygu geirfa i ddisgrifio ac ymateb i waith celf. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i feddwl am dechneg celf, arddull, cyfansoddiad a'r defnydd o olau a lliw.

I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk