Creu a Gwneud
Crefft Neolithig
Camwch nôl mewn amser a chreu bowlen Neolithig eich hunan!
Bydd angen:
Balŵn
Bowlen gwag
Papur sgrap
Glud PVA
Brwsh paent
Cyfarwyddiadau:
1. Rhwygwch bapur mewn i ddarnau bach, a’i rhoi un ochr
2. Chwyddwch eich balŵn, a’i rhoi tu fewn y bowlen wag. Bydd hwn ei chadw yn ei le tra boch chi’n gweithio!
3. Gan ddefnyddio’r brwsh paent, rhowch glud PVA ar y paur wedi’i rwygo a dechrau ei roi ar y balŵn. Gadewch fylchau rhyngddynt, ond gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u cysylltu mewn mannau. Mae hyn er mwyn cadw’r bowlen mewn un darn.
4. Ar ôl i chi orffen defynyddio’r papur, gadewch i’ch Gwaith celf sychu dros nos.
5. Pan fydd yn sych, popiwch y balŵn a’i dynnu. Mae eich darganfyddiad archeolegol unigryw eich hun yn gyflawn!