Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Ail-fframio Picton - Golwg ar Bortreadau Hanesyddol a Chyfoes

Ewch i arddangosfa newydd Ail-fframio Picton a gweld portreadau hanesyddol o berspectif newydd. Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol hwn bydd cyfle i chi gwestiynu cyd-destun y portreadau hanesyddol hyn, a'u hystyried o safbwynt trefedigaethu, braint a hil. Byddwn ni hefyd yn edrych ar weithiau mwy cyfoes, gan edrych ar amrywiaeth o bortreadau drwy lens ail-fframio. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Y Dyniaethau

  • Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.

'Spirited' gan Laku Neg

'The Wound is a Portal' gan Gesiye

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk