Mewn i'r Drifft: Profiad danddaear
Beth yw glo a sut fyddai'n cael ei gloddio? Sut brofiad oedd gweithio danddaear? Dysgwch am hanes y dynion, menywod, plant ac anifeiliaid fu’n gweithio yn y pyllau yma yng Nghymru.
Taith dywys o'n profiad glofaol, Brenin Glo. Wedi ei naddu i'r bryn uwchlaw'r lofa, mae Brenin Glo: Y Profiad Cloddio yn dangos sut ddatblygodd y diwydiant glo yng Nghymru.
Bydd disgyblion yn cael gwisgo fel glowyr a dilyn taith drwy replica o lofa ddrifft gydag aelod o'n tîm addysg.
Mae'r gweithdy ar gael bob dydd rhwng 10-11am.
Cwricwlwm
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.
Ancanion dysgu:
- Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes y diwydiant glo.
- Canfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth i adeiladu barn a deall profiadau bywyd glowyr.
- Ymwneud â materion cyfoes a dysgu am effaith amgylcheddol y diwydiant glo.
- Defnyddio chwarae rôl i fagu'r hyder i berfformio a deall effaith gweithio mewn glofa ar iechyd a lles glöwr.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650