Llên Gwerin a'r Mabinogion: Storïa yn Oes y Tywysogion
Sut beth oedd byw mewn Llys Brenhinol neu gastell yn ystod Oes y Tywysogion? Dewch i weld pa fath o adloniant oedd yn boblogaidd cyn teledu, gemau fideo, Netflix a YouTube?
Dyma'ch cyfle i fod yn storïwr cynorthwyol yn Llys Llywelyn a, gyda help eich ffrindiau, creu stori i ddiddanu’r Tywysog a'i lys. Defnyddiwch eich sgiliau artistig, mynegiant a'ch dychymyg i greu noson o adloniant y bydd y Tywysog Llywelyn a'i lys yn ei mwynhau.
Adnoddau:
Oes y Tywysogion: i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk