Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Ail-fframio Picton

Rydyn ni'n lansio sesiynau addysg newydd ar gyfer ysgolion uwchradd i gydfynd ag arddangosfa Ail-fframio Picton yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd y sesiynau yn edrych yn fanylach ar waith Laku Neg a Gesiye a'r gweithiau comisiwn sy'n dangos persbectif Trinidadaidd cyfoes ar waddol drefedigaethol Picton a'i oes, gan roi cyfle i ddisgyblion drafod y gweithiau o safbwynt themâu dad-drefedigaethu.​

Hyd: 1 awr

'Spirited' gan Laku Neg

'The Wound is a Portal' gan Gesiye

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk