Gweithdy Amgueddfa

Breuddwydion y dyfodol - Gwyddoniaeth a chelf hedfan ar droad yr 20fed ganrif

Heddiw yr ydym yn cymryd yn ganiataol gallu hedfan ar draws y byd mewn awyrennau.

Beth oedd dyddiau cynnar hedfan fel? Dewch i glywed yr hanes cyffrous am y dyn cyntaf, Charles Horrace Watkins, i gynllunio ac adeiladu awyren yng Nghymru, y Robin Goch.

Ymunwch a Thomas Docherty, awdur a darlunydd lleol o fri, a fydd yn eich ysbrydoli i ddilyn eich trywydd creadigol llawn dychymyg eich hun. Cewch hefyd gyfle i ddarganfod mwy am wyddoniaeth, celf a dyfeiswyr cynnar hedfan.

 

Ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac ar-lein. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol. 

 

Ieithoedd, Llythrenedd a Chyfathrebu 

Mae llenyddiaeth yn tanio'r dychymyg ac yn ysbrydoli dychymyg. 

Llun du a gwyn o'r dyfeisiwr Charles Horace Watinks yn sefyll o flaen awyren y Robin Goch.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600