Gweithdy Amgueddfa

Gweithdy: Creu Cymeriad

Cyfle i greu eich cymeriad dychmygol eich hun mewn sesiwn sy’n annog chwilfrydedd, ymholiad a chreadigrwydd. Ewch i Ganolfan Ddarganfod Clore, gan gael eich ysbrydoli gan bob math o sbesimenau. Bydd plant yn defnyddio’r rhain fel ysgogiad creadigol i ddatblygu cymeriad newydd ar gyfer llyfr, teledu neu ffilm. 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau 

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Y Celfyddydau Mynegiannol  

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu 
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg 

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.    

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk