Yn Eich Ardal

Celf ar y Cyd

Dewch i bori, dysgu a chael eich ysbrydoli gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru . Yma mae’ch cyfle i weld casgliadau sydd ddim i’w gweld mewn orielau yn ogystal â dysgu am y ffordd yr ydyn ni’n storio a gofalu am gelf gyfoes. 

Gallwch archwilio, darganfod a dysgu popeth am y casgliad celf gyfoes cenedlaethol yma drwy fideos, erthyglau a gweithgareddau.  

Os mai ond 5 munud sydd gennych neu eich bod yn edrych am adnoddau mwy manwl, mae gennym rhwbeth i siwtio dysgwyr o bob oedran a gallu.  

Cliciwch yma i ddechrau archwilio - Dysgu | Celf ar y Cyd 

Copa Pumlumon – Mary Lloyd Jones © Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Bard Attitude – Bedwyr Williams