Gweithdy Amgueddfa
Gweithdy: Celf ac Ymgyrchu
Mae celf wedi cael ei ddefnyddio erioed i gyfathrebu, codi ymwybyddiaeth am faterion cymdeithasol a llywio newid positif. Dysgwch sut mae artistiaid yn defnyddio celf a chreadigrwydd i daflu goleuni ar faterion cymdeithasol, a'u herio.
Yn y gweithdy hwn bydd y disgyblion yn:
- Darganfod gweithiau celf yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sy'n amlygu materion cymdeithasol
- Dewis mater cymdeithasol sy'n bwysig iddyn nhw
- Llunio cysyniad am waith celf sy'n codi ymwybyddiaeth o'r mater cymdeithasol
Hyd:
1 awr
Tâl:
Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Y Dyniaethau
- Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llwyio gan weithredoedd a chredoau pobl.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk