Gweithdy Amgueddfa
Gweithdy: Cynefin
Yn y gweithdy cyfranogol hwn, gall dysgwyr rannu a datblygu ymdeimlad o gynefin, a dealltwriaeth o Gymru a'i lle yn y byd. Bydd cyfle i rannu a chodi ymwybyddiaeth o hanes, diwylliant, gwerthoedd a threftadaeth amrywiol y Gymru gyfoes, a'u cyfraniad i gymunedau Cymru.
Hyd:
1 awr
Tâl:
Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
- Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
- Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk