Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan
Ydych chi ar fin cychwyn neu’n dod i ddiwedd gwersi ar gysyniad neu thema benodol? Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth i hybu chwilfrydedd eich disgyblion?
Mae gweithdai Dangos a Dweud yn hanner awr o hyd ac yn costio £40 ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion.
Bydd y gweithdai’n cael eu harwain gan aelod o’r tîm addysg, ac yn defnyddio casgliad yr amgueddfa i edrych ar brofiadau bywyd beunyddiol pobl Cymru yn y gorffennol a beth allwn ni ddysgu ei wneud yn ein bywydau ni heddiw ac yn y dyfodol.
Rydyn ni ar hyn o bryd yn cynnig gweithdai Dangos a Dweud ar gyfer y canlynol:
- Maestir – Ysgol o Oes Fictoria
- Llys Llywelyn – Llys o Oes y Tywysogion
- Bryn Eryr – Tai Crwn o Oes yr Haearn
- Gwalia – Siop o’r 1920au
Gallwn gynnig gweithdai Dangos a Dweud cyflwyniadol ar gyfer llawer o’r adeiladau hanesyddol ac orielau. Cysylltwch â ni a gallwn ni drafod sut allwn ni gefnogi eich cwricwlwm ymhellach: ffôn (029) 2057 3546 / e-bost: addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk