Llwybrau Amgueddfa

Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan i gwrdd â’r Melinydd | 20/06/2024 | 11:00am

Dewch i ddysgu am waith beunyddiol melinydd a chlywed sut oedd blawd yn cael ei brosesu yn y Felin.

Bydd y daith am ddim hon i ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg yn archwilio Melin Bompren yn Sain Ffagan drwy sain ddisgrifiad.

Bydd yr olwyn yn troi, a bydd cyfle i dreialu gwahanol ddulliau o falu grawn ŷd, gan ddefnyddio breuanau carreg neu feini malu

Cwrdd â’r Gwehydd | 22/08/2024 | 11:00am

Dewch draw i’r Felin Wlân yn Sain Ffagan i gwrdd â Dewi, Gwehydd yr Amgueddfa, sy’n gweithio yn y felin heddiw ac yn defnyddio dulliau traddodiadol i greu amrywiaeth o nwyddau gwlân. 

Dyma gyfle i ddysgu mwy am waith beunyddiol gwehydd a sut mae gwlân yn cael ei brosesu yn y felin, gyda chyfleoedd i drin a thrafod gwrthrychau, a phrofiadau synhwyraidd. 

Bydd y daith am ddim hon i ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg yn archwilio’r Felin Wlân yn Sain Ffagan drwy sain ddisgrifiad. 

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod â chynorthwy-ydd personal. 

Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â chynorthwy-ydd personal,neu chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.

Archebu tocyn

Hyd: 1 awr
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk