Llwybrau Amgueddfa

Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

100 Celf | 18/07/2024 | 10:30am
 
Ymunwch â ni ar daith am ddim i ymwelwyr dall ac ymwelwyr â nam ar eu golwg.  Mae arddangosfa 100 Celf yn gasgliad o rai o weithiau celf mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa a gafodd eu dangos mewn lleoliadau ledled Cymru cyn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gyda’r daith sain ddisgrifiad gallwch chi ddysgu mwy am gweithiau celf sy’n cael eu dangos.
 
Ffosilau o’r Gors | 12/09/2024 | 10:30am
 
Ymunwch â ni ar daith sain ddisgrifiad drwy arddangosfa Ffosilau o’r Gors a dysgu mwy am y gors drofannol oedd yn gorchuddio Cymru tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. 

Bydd y daith dywys rhad ac am ddim hon ar gyfer ymwelwyr dall a gydag amhariad ar y golwg yn edrych ar y ffosilau hardd sy’n adrodd hanes y gwlypdiroedd trofannol hynafol hyn. 

Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod a thywysydd fel cwmni. 

Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â thywysydd, ddod â chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer. 

Archebu tocyn

Hyd: 1 awr
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk