Llwybrau Amgueddfa

Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dewch i fwynhau taith sain ddisgrifiad yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, a dysgu mwy am fywyd yng Nghaerllion oes y Rhufeiniaid. Mae'r daith am ddim hon ar gyfer ymwelwyr dall neu â nam ar eu golwg. Bydd digon o gyfle i ddal a gwisgo gwrthrychau replica. Mae'r daith i gyd yn yr Amgueddfa, a does dim angen cerdded pellter hir. Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa. Bydd y daith yn para tua 1 awr.

Archebu tocyn 

Hyd: 1 awr
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk