e-Llyfr

Llwybr y Rhyfel Byd Cyntaf Sain Ffagan

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith aruthrol ar bobl Cymru – gartref ac ar dir tramor. Bu farw 32,000, gan adael cenhedlaeth o wragedd gweddw a phlant heb dadau. Collodd miloedd o bobl ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion. 

Mae’r llyfryn hwn yn edrych ar effaith y brwydro trwy gyfrwng rhai o adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa. Beth oedd effaith y rhyfel ar y bobl oedd yn byw, gweithio a chymdeithasu yn yr adeiladau hyn? O gartrefi i neuaddau, o bentrefi cefn gwlad i drefi diwydiannol, ac o werinwyr i uchelwyr, cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith ddofn ar deuluoedd a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Lawrlwythwch y fersiwn PDF isod.

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.