Gweithdy Amgueddfa

'Fuoch chi rioed yn morio? Stori a Chan

Ymunwch a ni i ddarganfod yr Amgueddfa trwy gan, symud a hwiangerddi Cymraeg.

Sesiwn 30 munud i ddarganfod ein Hamgueddfa, trwy drin a thrafod arteffactau a darganfod hwiangerddi Cymraeg.

Cewch gyfle ar ôl y sesiwn i edrych o amgylch yr Amgueddfa ag ymarfer eich geirfa Cymraeg.

Ar gyfer dosbarthiadau meithrin- blwyddyn 2. 

Hyd: 30 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600