Gweithdy Amgueddfa
Adweithiau cinetig thermol
Ymunwch â ni am weithdy llawn STEM i ddarganfod hanes a gwyddoniaeth ffrwydradau pyllau glo.
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar:
- Darganfod sut mae adweithiau cemegol o dan y ddaear yn effeithio ar ddiogelwch mewn pyllau glo.
- Archwilio sut mae mater fel nwy a llwch yn ymateb i greu ffrwydrad.
- Arddangosiadau o ffrwydradau llwch.
- Archwilio datblygiad hanesyddol Maes Glo yng Nghymru.
- Deall effaith y Chwyldro Diwydiannol ar Gymru.
Yn addas ar gyfer 11 mlynedd +
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £60 (gwelwch sut i archebu).
Hyd:
1 awr
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn siapio ein bywydau.
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600