Gwyddoniaeth Diwydiant Cymru | Ffrwydradau
🔍 Darganfod ac archwilio
Ymunwch â ni am weithdy llawn STEM i ddarganfod hanes a gwyddoniaeth ffrwydradau pyllau glo.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Darganfod sut mae adweithiau cemegol o dan y ddaear yn effeithio ar ddiogelwch mewn pyllau glo. Archwilio sut mae mater fel nwy a llwch yn ymateb i greu ffrwydrad. Arddangosiadau o ffrwydradau llwch. Archwilio datblygiad hanesyddol Maes Glo yng Nghymru. Deall effaith y Chwyldro Diwydiannol ar Gymru.
Yn addas ar gyfer 11 mlynedd +
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn siapio ein bywydau.
Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600