Penodwyd David Roy Saer i staff Amgueddfa Werin Cymru yn Gynorthwywr Ymchwil ar ddydd Calan 1963. Dyma ddechrau ar flynyddoedd diwyd o gasglu a chofnodi caneuon gwerin Cymraeg drwy recordio unigolion dros Gymru gyfan a chasglu eu hatgofion am yr hen benillion hyn.