Gweithdy Amgueddfa

LEGO® Build the Change: Gwarchod y Moroedd

Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn anifeiliaid sy'n byw dan y môr?

Ydych chi am warchod byd natur? 

Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn gwaith biolegydd morol? 

Ydych chi'n caru adeiladu gyda LEGO®? 

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adeiladu’r newid! Mewn gweithdy ymarferol bydd y disgyblion yn dysgu am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt morol yng Nghymru a thu hwnt, a'r peryglon sy'n ei wynebu drwy ddefnyddio sbesimenau amgueddfa, astudiaethau achos a gwaith ymchwil gwyddonwyr amgueddfa. Byddan nhw wedyn yn defnyddio'u dychymyg a briciau LEGO® i ddylunio, adeiladu, gwerthuso a rhannu datrysiadau irai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cynefinoedd morol, gan gynnwys llygredd a newid hinsawdd. ⁠

Mae'r Ddaear yn newid yn gyflym dan ddylanwad gweithredoedd dynolryw a'n heffaith ar fyd natur. Cynlluniwyd y gweithdy er mwyn cael y disgyblion i feddwl yn greadigol am y datrysiadau a'r sgiliau angenrheidiol i daclo heriau mwyaf ein hoes, a'u paratoi at y dyfodol. 

Mae'r gweithgaredd yn bosib diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur a'r LEGO Group, fel rhan o'u rhaglen Build the Change. Rhaglen gynaliadwy yw hon sy'n rhoi llais i blant a chyfle iddyn nhw fynegi eu dyhead a'u syniadau am ddyfodol gwell.

LEGO, the LEGO logo, the Minifigure, and the Brick and Knob configuration are trademarks and copyrights of the LEGO Group. ©2024 The LEGO Group. All rights reserved.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Y Dyniaethau

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk