Hafan y Blog

Oes y Tywysogion

Joe Lewis, 28 Awst 2019

Dros Nos yn Llys Llywelyn

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych ymlaen at lansio ein rhaglen aros dros nos yn Llys Llywelyn yr haf hwn.

Ail-gread yw Llys Llywelyn o un o Lysoedd Tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif. Mae wedi'i seilio ar weddillion Llys Rhosyr yn ne-orllewin Ynys Môn.

Bydd cyfle i ysgolion aros dros nos yn Llys Llywelyn rhwng Ebrill a Hydref. Yn ystod y dydd bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn gweithdy chwarae rôl i ddysgu mwy am fywyd yn Llys Llywelyn. Gyda'r nos bydd cyfle i weld tu ôl i'r llenni yn Sain Ffagan, chwarae gemau canoloesol a chysgu gan drawstiau lliwgar yr adeilad hynod hwn.

Mae'r pecyn yn cynnwys gweithdy awr o hyd, gweithgareddau hunan-arwain gyda'r nos, swper, siocled poeth, brecwast a llety dros nos.

Chwilio am nawdd i aros dros nos yn Llys Llywelyn? Gall ysgolion wneud cais am grant Ewch i Weld i fynychu sefydliadau diwylliannol.

Adnoddau Dosbarth

Yn ogystal ag adeilad y Llys ei hun, rydym wedi cynhyrchu pecyn o adnoddau dosbarth sy'n dysgu mwy am Oes y Tywysogion.

Cydweithiodd Amgueddfa Cymru â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynhyrchu'r adnoddau. Rhannwyd yr adnoddau yn 6 thema, gyda gweithgareddau dosbarth posibl ar gyfer hyd at 5 gwers i bob thema:
Trosolwg, Tystiolaeth, Bywyd Bod Dydd, Cestyll a Llysoedd, Rheolwyr Cymru, a Choncwest Cymru. Mae'r adnoddau i gyd yn defnyddio casgliadau o bob sefydliad partner i ddod ag Oes y Tywysogion yn fyw.

Joe Lewis

Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.