Hafan y Blog

Straeon Covid: “Os yw wedi dod unwaith, oni all ddod eto, neu ryw bandemic arall?”

Delwyn, Caerdydd, 28 Mai 2020

Cyfraniad Delwyn i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Rwy’n byw mewn fflat i'r henoed ac yn gwbl annibynnol yn fy fflat fy hunan. Mae 33 o fflatiau cyffelyb yn y bloc. Nid cartref gofal mohono. 'Does gen i ddim teulu agos yma yng Nghaerdydd, felly 'dyw'r sefyllfa honno ddim wedi newid.

'Dydw i ddim wedi gweld fy ffrindiau ers deufis. 'Dydw i ddim hyd yn oed yn gweld fy nghymdogion yn y bloc oni bai fy mod i'n digwydd taro ar eu traws yn y coridorau, neu wrth gerdded yn yr ardd. 'Dydw i ddim wedi mynd trwy glwyd y bloc fflatiau ers 21 Mawrth. Os bydda' i'n mynd allan o'r fflat, mi fydda' i'n golchi fy nwylo wedi dod nôl. 'Dydw i ddim wedi gwisgo masg o gwbl hyd yn hyn, ond efallai y gwna' i pan fydda' i'n dechrau mynd allan.

Rwy’ fwy neu lai yr un pethau ag o'r blaen, ac eithrio pethau sy'n golygu mynd allan, ond gan fod mwy o amser 'rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud pethau yn fwy araf. Derbyn ac anfon ebyst, edrych ar y teledu, chwarae 'Patience' ar fy ffôn.

Mi fyddwn i fel rheol yn siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos, a phrynu rhai pethau arbennig mewn siopau ynghanol y ddinas. Ond nawr 'rwy'n dibynnu ar garedigrwydd gwraig o'r capel sy'n prynu popeth drosta' i yn yr archfarchnad leol.

Mae'r pryder am y posibilrwydd o ddal y clefyd yn lleihau fel mae'r amser yn mynd heibio. Ond os yw wedi dod unwaith, oni all ddod eto, neu ryw bandemic arall? Mae hyn yn destun pryder. Ond 'rwy'n teimlo'n ddiolchgar na fu dim tebyg o'r blaen yn ystod fy mywyd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.