Hafan y Blog

Cymanfa’r Adar: Gylfinir & Carfil Mawr

Elizabeth Walker, 18 Hydref 2023

Dros y tair blynedd diwethaf, mae staff o adrannau Hanes ac Archaeoleg a’r Gwyddorau Naturiol wedi bod ar daith gyda’r artist a’r animeiddiwr Sean Harris, yn edrych ar ddyfodol tirwedd Cymru a’n perthynas â hi. Mae hyn wedi cynnwys gweithdai ym Mharc Gwledig Loggerheads, gosodiadau o gwmpas AHNE Bryniau Clwyd, gan orffen gydag arddangosfa newydd yn y Senedd ac Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.

Mae’r arddangosfa yn cyfuno eitemau o Amgueddfa Cymru gydag animeiddiadau a gweithiau celf a grëwyd gan Sean. Mae’r gweithiau yn rhoi llais i ddau aderyn eiconig: y Gylfinir, a allai ddiflannu o Gymru mewn llai na degawd; a’r Carfil Mawr, y mae ei ddiflaniad trasig yn codi cwestiynau ynghylch ein gallu i ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Gyda’i gilydd, mae’r adar hyn yn tynnu sylw at effaith ein gweithredoedd a’n perthynas anghynaladwy â byd natur.

Wedi’u cynnwys yn yr arddangosiadau mae’r Carfil Mawr (ac wy replica) a ddiflannodd yn y 1840au, a’r Thylacine neu’r Blaidd Tasmania a ddiflannodd o dir mawr Awstralia o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyn i Ewropeaid gyrraedd, roedd tua 5,000 Thylacine yn dal i fyw yn Tasmania. Roeddent yn cael eu gweld fel bygythiad i anifeiliaid fferm, a chawsant eu hela am arian. Bu farw’r olaf yn Sŵ Hobart ym 1936.

Hefyd yn cael eu harddangos mae carw 11,000 oed, dant buwch wyllt o Ogof Kendrick, Pen y Gogarth, oedd yn rhan o fwclis gafodd ei wisgo tua diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf. Ynghyd â gweddillion udfil o Ogof Coygan, Talacharn, cawsant eu dewis i’n cysylltu â rhywogaethau coll, a’r ffordd y mae pobl wedi defnyddio gweddillion anifeiliaid. 

Mae’r arddangosfa hon yn dod â negeseuon pwysig am gadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd i galon Senedd Cymru, gyda’r bwriad o greu dyfodol gwell. I Jules, Jen ac Elizabeth o’r Amgueddfa, mae hon wedi bod yn daith gyffrous, gan orffen gyda’r eitemau rhyfeddol hyn o’n casgliadau yn cael eu harddangos i’r cyhoedd wrth ochr celf anhygoel Sean.

Darllenwch fwy am yr arddangosfa ac oriau agor y Senedd yma.

Dr Elizabeth Walker

Prif Guradur: Casgliadau a Mynediad
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.