Hafan y Blog

Jessie Knight - Yr artist tatŵs benywaidd

Dr Bethan Jones, 1 Tachwedd 2023

Cefais fy mhenodi’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus gydag Amgueddfa Cymru yn gynharach eleni ac o’r diwedd rwyf wedi cyrraedd y nod o weld y casgliad y byddaf yn gweithio gydag ef!

 

Rwy'n gwneud gwaith ar Jessie Knight, sy'n cael ei hystyried yn un o artistiaid tatŵ benywaidd cyntaf y DU, ac roedd yn anhygoel gweld ei pheiriannau, fflach, celf a lluniau. Mae tua 1000 o eitemau yn yr archif a dim ond dau focs rydw i wedi llwyddo i edrych arno felly dwi'n gyffrous iawn i weld beth arall alla i ddod o hyd iddo. Byddaf yn gweithio gyda'r casgliad am ddwy flynedd ac yn cynllunio rhai digwyddiadau cymunedol yn ogystal ag ymchwil cyfranogol.

 

Cefais fy nhatŵ cyntaf yn 19 oed. Darn a ddewiswyd oddi ar waliau stiwdio yng Nghaerfaddon, wedi'i wneud gan datŵydd na allaf gofio dim amdano heblaw ei fod yn gwisgo menig du. Dros ugain mlynedd wedyn ac mae gen i lawer mwy, dyluniadau o'n newis i wedi'u gwneud dros nifer o sesiynau, a'r diweddaraf gan ddynes oeddwn i'n arfer gweithio gyda'i mam. Mae tatŵs, hyd yn oed ers i mi gael fy un cyntaf, wedi dod yn fwy poblogaidd, ac yn fwy derbyniol. Ac mae artistiaid tatŵ benywaidd yn dod yn fwy cyffredin - yn hollol wahanol i ddechrau'r 20fed ganrif pan ddechreuodd Jessie Knight ei gwaith.

 

Caiff Jessie, a gafodd ei geni yn Croydon yn 1904, ei chydnabod fel y fenyw gyntaf yn y DU i fod yn artist tatŵ. Dechreuodd weithio yn stiwdio ei thad yn y Barri pan oedd hi'n 18 oed, ac ar ôl symud o gwmpas y DU, dychwelodd i'r Barri yn y 1960au. Ar ôl iddi farw yn 1992, cafodd ei chasgliad o ffotograffau, gwaith celf, peiriannau tatŵs a dyluniadau eu pasio ymlaen i'w gor-nai Neil Hopkin-Thomas a chawson nhw eu caffael gan Amgueddfa Cymru, gyda chymorth yr hanesydd celf a'r academydd tatŵs Dr Matt Lodder, yn 2023. 

 

Ond pam ar y ddaear ddylai amgueddfa gaffael neu arddangos archif tatŵydd? Fel rhywun sydd â thatŵs, ac sy'n eu hymchwilio, mae'r casgliad yn ddarn diddorol o hanes isddiwylliannol. Ac mae isddiwylliannau - fel pync a hip-hop - wedi dod yn destun arddangosfeydd mewn amgueddfeydd ac orielau yn fwyfwy aml. Mae tatŵs yn adlewyrchu gobeithion, hoffterau a hunaniaeth y bobl sy'n berchen arnyn nhw - fel mae'r tatŵ o ddawns yr Ucheldiroedd a roddodd yr ail safle i Jessie yng nghystadleuaeth Pencampwr Artistiaid Tatŵ Lloegr Gyfan 1955 yn ei ddangos - ac yn rhoi cipolwg ar fywydau pobl dros yr oesoedd. 

 

Ond mae casgliad Jessie Knight hefyd yn dweud wrthym ni am safonau diwylliannol a chymdeithasol yr oes. Caiff ei amcangyfrif mai dim ond pum artist tatŵs benywaidd arall oedd yn gweithio ar yr un pryd â Jessie yn yr UDA ac Ewrop. Roedd hwn yn ddiwydiant hynod anodd ar gyfer dynes a gallwn weld rhywfaint o'r ymddygiad byddai Jessie wedi gorfod ymdopi ag e yn yr arwyddion oedd hi'n eu harddangos - sydd wedi'u cadw yn y casgliad. Mae ei gor-nai wedi adrodd straeon am sut gafodd siop Jessie ei ladrata a'i dyluniadau eu dwyn, a sut y byddai'n eistedd ar gist fawr oedd yn dal ei dyluniadau tra'r oedd hi'n gwneud tatŵs fel na allai neb eu dwyn. Mae'r dyluniadau yn y casgliadau hefyd yn dweud wrthym ni am dueddiadau o'r oes honno, a thra bod rhai o'r rhain yn broblematig iawn a bod angen mynd i'r afael â nhw'n sensitif, gallwn hefyd weld sut symudodd Jessie i ffwrdd o'r cynrychioliad ystrydebol o fenywod fel gwrthrychau rhyw i greu darlun mwy realistig o fenywod. Roedd hyn yn anarferol ar y pryd, ond eto roedd Jessie ei hun hefyd yn anarferol - ac arweiniodd y ffordd ar gyfer artistiaid tatŵ benywaidd sy'n gweithio heddiw. 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.