Athrawon

Am ddim Yn yr ysgol

Canllaw Athrawon Deinosoriaid yn Deor

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Canllaw Athrawon Deinosoriaid yn Deor
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Dan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Am ddim Sesiwn beilot

STEM tu hwnt i'r Dosbarth

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017

10am - 2:30 pm Drysau'n agor am 9.45am i gofrestru

Darlithoedd ysbrydoledig a gweithdai ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd i fynd i'r afael â'r Cwricwlwm gwyddoniaeth a technoleg newydd.

Yr Athro Justin Dillon, Athro Gwyddoniaeth ac Addysg Amgylcheddol, Prifysgol Bryste, fydd yn edrych ar ddysgu tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Dr Rhys Jones, darlithydd, herpedolegydd a chyflwynydd 'Rhys to the Rescue' yn cyflwyno ei brofiad ei hun o gyfathrebu gwyddoniaeth a'r angen am lythrennedd mewn gwyddoniaeth.

Gweithdai cynradd ac uwchradd yn cynnwys ystod o bynciau, o ymddygiad anifeiliaid ac ymchwil gwyddonol i gemeg a seryddiaeth. Cyfres o fignetau byr gan athrawon yn edrych ar sut i ysbrydoli cyfleoedd gwyddonol.

I archebu lle AM DDIM a dewis gweithdai, ewch i: https://asecymruconference2017.eventbrite.co.uk         

Dyddiadau: Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Pecyn digidol newydd i gefnogi’r fframwaith rhifedd mewn ysgolion cynradd.

22 o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 i hybu sgiliau rhif, geometreg, mesur a data.

Datblygwyd y pecyn hwn mewn partneriaeth â Gwawr Gwyddoniaeth. Noddwyd y pecyn hwn trwy grant gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Adnodd Addysg y Ddôl Drefol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad â’r Amgueddfa ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

adnodd dysgu gwyddorau naturiol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Nod yr adnodd hwn dan arweiniad athro ar gyfer ysgolion cynradd yw helpu athrawon ac arweinwyr grŵp eraill i drefnu ymweliad llwyddiannus. Mae’r orielau yn amrywiol, ac yn cwmpasu pob math o bynciau gwahanol o fewn y cwricwlwm Gwyddoniaeth, gan gynnwys cynefinoedd, anifeiliaid, planhigion, deinosoriaid, mwynau a bioamrywiaeth.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys gweithgareddau hefyd i’ch helpu i archwilio’r arddangosfeydd.

Am ddim Dan arweiniad athro

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddim Dan arweiniad athro

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddim Dan arweiniad athro

Archwilio Deunyddiau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Taflen waith i’ch helpu i archwilio’r casgliadau – faint o bethau allwch chi eu canfod.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Dogfennau

Am ddim Dan arweiniad athro

O Bacon i Doig

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Adnodd addysg ar gyfer ysgolion uwchradd yn edrych ar yr arddangosfa celf O Bacon i Doig.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Celf a Dylunio

Am ddim Dan arweiniad athro

Syniadau cyffredinol ar gyfer ymweld â’r amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Defnyddiwch y nodiadau hyn er mwyn archwilio themâu addysgol ar draws yr orielau.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddim Dan arweiniad athro

Ymweliad â’r Oriel Gelf - casgliadau celf hanesyddol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Datblygwyd y nodiadau hyn er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am ddarnau celf unigol yn yr orielau celf hanesyddol yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i drafod celf gyda’ch disgyblion.

Mae rhai o'r gweithiau celf yn yr adnodd yma nawr mewn lleoliad gwahanol neu ddim ar arddangos. Os ydych am ymweld i astudio gweithiau penodol holwch cyn eich ymweliad.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddim Yn yr ysgol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.