Siop Gwalia

Pa fath o adeilad yw hwn?

Roedd Siop Gwalia yn nodweddiadol o siopau bach y cymoedd, ac wedi’i lleoli yng Nghwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Pwy oedd berchen Siop Gwalia?

Ym 1880 ehangodd Wiliam Llywellyn ei fusnes groser drwy adeiladu’r siop hon. Dim ond y rhan ganol oedd yr adeilad gwreiddiol. Gyda storfa ar y naill ochr a chartref William a’i wraig Mary ar y llall. Cyn bo hir ehangwyd y siop a chymerwyd y llawr cyntaf yn ogystal â llorisau isaf y tri thŷ cyfagos.

Cyflogai William a Mary staff oedd yn byw yn atig Gwalia. Caent gyflog o 8 swllt (40c) yr wythnos.

Wrth i’w busnes ffynu, symudodd William a Mary o fyw uwchen y siop i dŷ sylweddol ym Mro Morgannwg. DaethWilliam yn wleidydd Rhyddfrydol a pherchennog eiddo lleol a fe a Mary oedd y cyntaf yn yr ardal i berchen ar gar, a rhoddodd William yr enw Genevieve arno.

Beth oedd Siop Gwalia yn ei werthu?

Roedd siop Gwalia yn agos i’r rheilffordd yng Nghwm Ogwr, ac roedd nwyddau o bedwar ban byd i’w cael yno. Deuai te o Tsieina ac India, siwgr o’r Caribî ac Affrica, a ffa coffi o Frasil. Byddai ffermydd lleol yn cyflenwi bacwn, caws, wyau a menyn. Byddai gweithwyr y siop yn estyn nwyddau oddi ar y silffoedd i’r cwsmeriaid. Byddent yn pwyso’r te, ac yn malu’r ffa coffi yn ffres.

Erbyn 1916 roedd Siop Gwalia yn cynnwys popty, siop nwyddau haearn, siop groser, siop ddillad dynion, a fferyllydd yn ogystal ag adran a werthai fwydydd anifeiliaid. Roeddynt yn gwerthu popeth ac yn ôl un o drigolion Cwm Ogwr “this store was our Harrods in those days.”

Gwerthwyd bisgedi fel Custard Creams, Jammy Dodgers a Garibaldi yn y siop, a gwerthwyd bisgedi wedi torri am bris llai.

Sut oedden nhw’n cadw bwyd yn oer?

Cyn dyddiau’r oergell a’r rhewgell, byddai bwydydd fel cig a chaws yn cael eu cadw ar gownter marmor.

Beth ddigwyddodd i Siop Gwalia?

Gwerthodd teulu Llewellyn y siop ym 1945. Caeodd ei drysau am y tro olaf ym 1973; roedd wedi colli’r frwydr yn erbyn archfarchnadoedd Pen-y-bont.

Siop Gwalia - Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

F94.18.1

Derbyniad

Purchase

Original Location

Commercial Street, Ogmore Vale, Morgannwg

Original Construction

1880

Moved to St Fagans

1988

Furnished Period

1920s

Oriel