Bwthyn Llainfadyn a Beudy Cae Adda

Cafodd y bwthyn hwn o Eryri ei godi ym 1762, yn ôl y dyddiad a gerfiwyd ar ochr dde linter y lle tân. Mae'n adeilad solet o gerrig mawr o'r mynydd ac mae pâr o gyplau derw cadarn yn cynnal y to o lechi bychan lleol. Yn wahanol i ffermdai, roedd bythynnod fel hyn yn gartrefi i bobl nad oedd ganddynt ddigon o dir i roi bywoliaeth iddynt. Fel rheol, gweision ffermydd neu grefftwyr oeddynt neu, fel yn achos y bwthyn hwn, chwarelwyr a'u teuluoedd. Byddai'r trigolion yn gosod dodrefn i rannu'r bwthyn i wneud ystafelloedd gwely a thaflod ar gyfer y plant - patrwm a oedd yn gyffredin yng ngorllewin Cymru.

Roedd y chwarelwyr yn gwneud gwaith peryglus ond yn cael eu talu'n eithaf da, fel y dengys ansawdd y dodrefn o tua 1870. Mae'r ddresel dderw, a wnaed yn Sir Gaernarfon yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, yn eithaf nodweddiadol o ddreselydd y gogledd, gyda'r rhan isaf wedi cau a rhesel estyllog. Dodrefnyn arall oedd yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru oedd y cwpwrdd bara caws. Daw'r dodrefnyn hwn, a grëwyd tua diwedd y 18fed ganrif, yn wreiddiol o Lainfadyn.

Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd o'r math yma yn cadw moch, buwch neu ddwy ac ieir ac felly roedd ganddynt feudy a thwlc gerllaw gan amlaf. Trwy ychwanegu beudy o'r Waunfawr, llwyddwyd i greu darlun cywirach o dyddyn traddodiadol. Cafodd y bwthyn ei dynnu i lawr a'i symud ym 1956.

Rhif yr Eitem

57.41.1

Original Location

Llainfadyn, Rhostryfan, Gwynedd (Sir Gaernarfon)

Original Construction

1762

Moved to St Fagans

1956

Opened to the Public

1962

Furnished Period

c.1870

Oriel