Tŷ Gwair Maentwrog

Hyd at yr 20fed ganrif, roedd gwair yn cael ei gadw mewn teisi fel rheol a dim ond y landlordiaid gorau oedd yn codi tai gwair ar gyfer eu tenatiaid. Teulu Oakley o Blas Tan-y-bwlch a gododd y tŷ gwair hwn a nhw, hefyd, oedd perchnogion un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd, ym Mlaenau Ffestiniog gerllaw.

Credir i'r adeilad gael ei godi tua 1870, o rwbel o haenau uchaf chwarel yr Oakley a dyna o ble y daeth y pileri llechi hefyd. Mae traean o hyd y pileri o dan y ddaear. O goed y stad y daeth y pren hefyd ar ôl ei dorri ym melin lifio'r stad.

Ym 1870, dechreuwyd draenio corsydd a chymoedd y stad a chodi terfynau i wneud caeau. Ffensys haearn bwrw oedd yn rhannu llawer o'r caeau newydd ac roedd tŷ gwair fel hyn mewn rhai ohonynt i gadw bwyd a

Rhif yr Eitem

F77.195

Derbyniad

Donation

Original Location

Maentwrog, Gwynedd (Sir Feirionnydd)

Original Construction

c.1870

Moved to St Fagans

1976

Opened to the Public

1977