Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mary Howells yn paratoi cawl
Cawl oedd y bwyd cyffredin i ginio ar y fferm yn ystod misoedd y gaeaf ac fe'i ystyrid yn fwyd maethlon iawn. Ffiolau pren a llwyau pren a ddefnyddid i'w yfed. Yr oedd yn arfer ar un adeg i ferwi tymplen afalau a throliod blawd ceirch yn y cawl. (gw. o dan y bwydydd hynny.)
Pren-gwyn, Aberteifi
Cawl Awst oedd cawl gorau'r flwyddyn. Byddai'n cynnwys pob math o lysiau o'r ardd ac weithiau rhoid darn o gig eidion ffres ynddo. Cynhelid 'Cawl Awst' ar draeth Cei Newydd ar y cyntaf o Awst. 'Roedd un wraig yn gyfrifol am ferwi'r cawl mewn crochan mawr a phob teulu'n cyfrannu cig a llysiau i'w rhoi ynddo. Gwledd ar gyfer y morwyr oedd hwn yn bennaf.
Cei Newydd, Aberteifi
Cawl ffwt a berw. Gwneid y cawl hwn pan nad oedd gan wraig y tŷ amser i ferwi cael yn y dull arferol. Byddid yn torri'r cig a'r llysiau'n fân a'u berwi i gyd gyda'i gilydd.
Tre-lech, Caerfyrddin
Cawl pen lletwad yw'r enw ar gawl a wneid o lysiau yn unig heb yr un darn o gig ynddo.
Cwm-bach, Caerfyrddin
Cawl twymo (cawl eil-dwym). Os byddai cawl yn weddill ar ôl cinio byddid yn ei ail dwymo ar gyfer swper y noson honno neu i ginio drannoeth.
Mae rhai yn ystyried cawl fel pryd cenedlaethol Cymru. Yn draddodiadol, dyma oedd prif ymborth nifer o deuluoedd, ac fel y mwyafrif o ryseitiau, roedd yn amrywio o ardal i ardal ac o deulu i deulu yn dibynnu ar y cynhwysion a'u tymor. Mewn rhai ardaloedd gweinwyd y cawl heb y cig a'r llysiau fel cwrs cyntaf, a'r llysiau a'r cig berw fel prif gwrs. Pryd tebyg a weinwyd yng ngogledd Cymru oedd lobsgows. Dyma Rhian Gay yn dangos sut i baratoi cawl.