Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Ffagots

Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf

Rhwyd y mochyn. Mrs May Edwards, Abercywarch, Meirionnydd.

Rhwyd y mochyn. Mrs May Edwards, Abercywarch, Meirionnydd.

Yr oedd hi’n ddefod i wneud y ffagots ar fore torri’r mochyn yn ardal Tonyrefail a’u cael yn barod erbyn cinio i’r bwtsiwr a’r gwŷr a fu’n ei helpu.

Tonyrefail, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • afu mochyn
  • hanner torth o fara sych wedi’i malu’n friwsion mân
  • pwys neu ddau o winwns
  • pupur a halen
  • ychydig o saets
  • ffedog mochyn   

Dull

  1. Malu’r afu’n fân, fân, â chyllell fawr ar fwrdd pren.  (Y mae malwr yn dueddol o roi blas annymunol ar yr afu.) 
  2. Pilio’r winwns, eu malu’n fân, a’u rhoi gyda’r afu mâl mewn padell bridd.
  3. Ychwanegu’r briwsion bara atynt, eu blasu â phupur a halen a saets, a chymysgu’r defnyddiau’n dda â llwy bren.
  4. Lledu’r ffedog allan ar fwrdd pren a’i thorri’n ddarnau o bedair i chew modfedd sgwâr, yn ôl y dewis.  (Rhoid y ffedog mewn dŵr claear weithiau i’w hystwytho a’i hestyn cyn ei thorri.)
  5. Llunio’r ffagots drwy lapio darn o’r ffedog o amgylch tua llond llwy fwrdd o’r cymysgedd, eu rhoi ochr yn ochr mewn tun cig a’u rhostio mewn ffwrn weddol boeth.
  6. Eu bwyta’n gynnes gyda thatws, pys a grefi.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.