Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Crancod a Chimychiaid

Nefyn, Gwynedd

Cewyll cimychiaid ym Mhorth Meudwy, Penllyn

Lobster pots, Porth Meudwy, Lleyn Peninsula

Ychydig iawn o grancod a chimychiaid a fwyteid yn lleol.  Berwai’r pysgotwyr hwy yn y dull hwn i’w gwerthu yn eu cregyn i ymwelwyr.

Nefyn, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crancod neu gimychiaid
  • dŵr a halen

Dull

  1. Berwi dŵr a halen mewn sosban a rhoi’r crancod neu’r cimychiaid i mewn yn y dŵr berw hwn. 
  2. Eu berwi’n gyson am ryw ugain munud neu ragor yn ôl eu maint. 
  3. Tynnu’r cig allan o’r cregyn ar ôl iddo oeri, a’i flasu â phupur a halen.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.