Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pennog Ffres

Nefyn, Gwynedd

Bwyteid penwaig wedi’u ffrio gyda thatws wedi’u berwi yn eu crwyn i ginio.

Nefyn, Llŷn, ac Aber-porth, Aberteifi.

Byddid yn ffrio ‘nionod a phenwaig ffres ar gyfer te neu swper.

Nefyn, Llŷn.

Yr oedd bwdram a ‘sgadan yn bryd poblogaidd yn ne sir Aberteifi ar un adeg, e.e.

Brynhoffnant, Aberteifi.

‘Ysgadedyn’ yw’r enw a arferir am herring yn siroedd de Cymru a ‘pennog’ yw’r enw a arferir arno yn siroedd y gogledd.  Yr oedd dal y pysgod hyn a’u gwerthu yn ddiwydiant pwysig ym mhentrefi glan y môr yn ystod misoedd yr hydref.  Gwerthid hwy o ddrws i ddrws, rhyw saith ohonynt am chwe cheiniog, a defnyddid ceffyl a chart i’w cario o gwmpas y ffermydd cyfagos.  Weithiau fe glywid y gwerthwr yn gweiddi rhigwm arbennig, e.e.,

‘ ‘Sgadan Aber-porth

Dau fola ac un corf.’

 

‘ ‘Sgadan Aber-porth

Dau ened mewn un corf.’

 

‘Penwaig Nefyn, penwaig Nefyn

‘U cefna fel cefna hen ffarmwrs

A’u bolia fel bolia tafarnwrs – penwaig ffres!’

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pennog ffres
  • saim cig moch

Dull

  1. Torri pen y pennog i ffwrdd, ei agor a’i lanhau’n drwyadl. 
  2. Ei ffrio mewn saim cig moch nes y bo’r croen wedi crimpio ar y ddwy ochr.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.