Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pennog Picl

Nefyn, Gwynedd

Y rhidyll, y gocses a'r rhaca - offer hel cocos.

‘Roedd pennog picl a thatws wedi’u crasu yn y popty yn gwneud pryd blasus iawn i ginio neu swper.

Nefyn, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • chwe phennog ffres
  • llond llwy de o sbeis piclo du
  • peint o finegr
  • nionod wedi’u tafellu
  • ychydig o halen
  • tua chwarter peint o ddŵr oer
  • llond llwy de o driog du
  • ychydig o cornflour

Dull

  1. Glanhau’r penwaig yn y dull arferol, agor eu boliau a thynnu’r perfedd a’r llinyn arian allan ohonynt. 
  2. Eu rhoi mewn dysgl bridd (neu enamel) a’u gorchuddio â’r finegr a’r dŵr. 
  3. Ychwanegu’r sbeis, yr halen a’r nionod atynt i’w blasu. 
  4. Toddi’r triog du mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i dywallt dros y penwaig. 
  5. Cymysgu ychydig o cornflour mewn dŵr oer i wneud cytew tenau a’i ychwanegu at y gwlybwr yn y ddysgl. 
  6. Coginio’r cwbl mewn popty araf am ryw awr nes bod esgyrn y penwaig wedi meddalu.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.