Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Halltu Penwaig
Aberdaron, Gwynedd
Cadw’r penwaig rhwng haenau o halen sych a wneid yn siroedd de Cymru – ni fyddai’r halen yn toddi rhyngddynt yr ail dro, e.e.
Aber-porth, Aberteifi.
Y Rysáit
Byddwch angen
Yr oedd y penwaig ar eu gorau cyn iddynt ‘fwrw eu brawn’ ddiwedd mis Tachwedd, a dyma’r adeg yr eid ati i’w halltu, fel rheol. Byddai’r dull o halltu penwaig yn anrywio rhyw gymaint o ardal i ardal ond yr un oedd y broses yn ei hanfod:
Dull
- Glanhau a thynnu perfedd rhyw ddwsin o benwaig allan cyn eu rhoi mewn dysgl bridd go fawr.
- Eu gorchuddio â halen a’u troi a’u trosi ynddo am ryw awr. (Y mae’r pennog yn ystwytho wrth ei halltu a gellir plygu’r pen at y gynffon pan fydd wedi cymryd digon o halen.) Trin rhyw dri neu bedwar dwsin o benwaig yn yr un dull.
- Yna rhoi haen drwchus o halen ar waelod casgen neu gelwrn pren.
- Rhoi rhes o benwaig (ochr yn ochr, pen wrth gynffon) ar y gwely halen hwn a’u gorchuddio â haen arall o halen drachefn.
- Parhau i’w gosod yn drefnus, haen o benwaig ac o halen bob yn ail, nes gorchuddio’r cyfan â halen.
- Gadael y penwaig yn yr halen am ryw naw niwrnod: erbyn hynny byddant yn nofio mewn heli.
- Codi’r penwaig allan o’r heli, eu golchi a’u sychu.
- Rhoi’r pysgod yn rhesi yn ôl yn y celwrn glân drachefn, a’u gorchuddio â dŵr a halen. Y tro hwn dylid toddi digon o halen mewn dŵr berw fel y bo wy yn medru nofio ar ei wyneb, ac yna ei dywallt dros y penwaig.
- Gadael y penwaig yn y ‘picil’ hwn a’u defnyddio ohono fel y bo’u hangen. (Dylid newid y picil yn achlysurol.)
Aberdaron, Llŷn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.