Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Penwaig Hallt

Nefyn, Gwynedd

Y rhidyll, y gocses a'r rhaca - offer hel cocos.

Sgadan Hallt

Rhostio sgadan hallt a wneid yn gyffredin yn siroedd de Cymru ac fe’u bwyteid gyda bara ‘menyn i de neu swper.

Defnyddio fforc hir i’w dal o flaen y tân a’u rhostio yno, bob yn un, a wneid gan amlaf, ond ceir hanes am eu rhostio ar yr ‘alch’ mewn rhai ardaloedd yn ne sir Aberteifi.  Math o ffram haearn, agored i’w hongian uwchben y tân oedd yr offeryn hwn, a rhoid dau neu dri o sgadan i orffwys arno i’w rhostio’n araf.

Brynhoffnant, Aberteifi.

Byddid yn golchi’r sgadan hallt a’u sychu cyn eu rhostio mewn rhai ardaloedd.  Ar ôl rhoi rhyw ddwsin ohonynt i sefyll mewn dŵr oer am rai diwrnodau gyrrid gwialen fain drwy dyllau ‘u llygaid.  Rhoid y sgadan i hongian ar y wialen hon wrth ddwy hoelen ar wal gefn y tŷ a chaent sychu yng ngwres yr haul yno.  Bryd arall byddid yn eu hongian, yn yr un modd, yn y simdde fawr.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • penwaig hallt
  • tatws yn eu crwyn

Dull

  1. Rhoi’r penwaig hallt mewn dŵr oer am dri diwrnod a thair noson i dynnu’r halen ohonynt cyn eu coginio.
  2. Llenwi sosban â thatws yn eu crwyn a rhoi penwaig hallt ar eu hwyneb. 
  3. Rhoi digon o ddŵr yn y sosban i ferwi’r tatws a gadael i’r penwaig goginio yn y gwres hwnnw.

Hwn oedd y dull mwyaf cyffredin o goginio’r penwaig hallt yn siroedd gogledd Cymru ac yr oedd yn bryd cyffredin i ginio neu swper ym misoedd y gaeaf.

Nefyn, Llŷn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.