Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Go-ferwi Eog

Llangrannog, Ceredigion

Putchers helyg a ddefnyddiwyd i ddal eogiaid yn aber afon Hafren. Roeddent tua phump i chwe throedfedd o hyd, a chawsant eu plethu gan y pysgotwyr dros y gaeaf.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • darn o eog (tua phwys)
  • llaeth
  • pupur a halen
  • deilen lawryf

 

 

Dull

  1. Rhoi deilen lawryf gyda darn o eog mewn sosban, ei orchuddio â llaeth a’i flasu â phupur a halen. 
  2. Go-ferwi’r cyfan am ryw bymtheng munud, yn ôl maint y darn.  (Dylid caniatáu pymtheng munud ar gyfer pob pwys.)  (Yn yr un modd, gellir rhoi’r defnyddiau mewn dysgl bridd a’u go-ferwi mewn ffwrn weddol boeth.) 
  3. Tafellu’r darn eog a’i fwyta naill ai’n dwym gyda saws persli, neu yn oer gyda bara ‘menyn.

Llangrannog, Aberteifi.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.