Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Ageru Eog (neu Wyniedyn)
Llandysul, Ceredigion
Yr oedd go-ferwi neu ageru eog yn ddull addas iawn o’i goginio pan fyddai claf yn dioddef oddi wrth unrhyw anhwylder ar y cylla.
Llandysul, Aberteifi.
Y Rysáit
Byddwch angen
- darn o eog (tua phwys)
- pupur a halen
- ymenyn
- dŵr
- ffenigl (neu finegr yn ôl y dewis)
Dull
- Rhoi dŵr ac ychydig o ffenigl ynddo yn rhan isaf sosban ddwbl ; blasu’r eog â phupur a halen, rhoi talp neu ddau o ymenyn ar ei wyneb a’i roi yn rhan uchaf y sosban.
- Berwi’r dŵr a gadael i’r eog goginio yn yr ager o’i gwmpas am rhyw bymtheng munud, yn ôl maint y darn.
- Onid oes sosban ddwbl ar gael gellir rhoi’r eog mewn dysgl bridd neu ar blât enamel wedi’i iro ag ymenyn.
- Rhoi’r ddysgl neu’r plât i orffwys ar wyneb sosban â dŵr berw ynddi.
- Gorchuddio’r eog â chaead y sosban a mud-ferwi’r dŵr am ryw bymtheng munud fel y bo’r eog yn coginio’n raddol yn yr ager sy’n codi o’r dŵr.
Ffilm/Recordiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.