Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cochi Eogiaid

Cenarth, Sir Gaerfyrddin

Ar ddechrau tymor dal eogiaid byddai’r hen bysgotwyr yn eu cochi.  Rhaid oedd gwneud y gwaith hwn yn ystod y tywydd oer ac nid oedd ffordd arall o’u ‘cadw’ gynt.  Dyma’r dull a arferid gan bysgotwr profiadol o ardal Cenarth, ar ffin sir Gaerfyrddin:

Y Rysáit

Byddwch angen

Dull

  1. Hongian yr eog wrth ei gynffon, ei agor o’r gynffon i lawr at y pen, tynnu’r perfedd allan a’i lanhau’n llwyr. 
  2. Codi’r asgwrn sydd o dan agoriad y pen ôl allan, a llanw’r ceudod â saltpetre.
  3. Rhoi rhes o sgiwerod (tua naw modfedd o hyd) ym mol yr eog i’w ddal ar agor, a’i lanw’n llawn â halen. 
  4. Trin tua dwsin o eogiaid yn yr un modd, a’u rhoi i orwedd ar eu cefnau ar wely o halen mewn cafn pren neu garreg. 
  5. Eu gorchuddio â halen eto a’u gadael yno am bythefnos. 
  6. Yna eu codi o’r heli hwn a’u golchi mewn dŵr ffres, rhedegog am dri diwrnod a thair noson.  (Gwneud pwll arbennig iddynt yn yr afon a wnâi’r hen bysgotwyr.) 
  7. Wedyn, hongian yr eogiaid uwchben tân isel o ddail deri wedi crino, a’u gadael i gochi yn y mwg hwnnw am dri diwrnod a thair noson. 
  8. Hongian yr eogiaid wrth eu cynffonnau ar hoelion mawr yn y simdde lwfer a wneid fel rheol, gan roi canghennau o bren celyn rhyngddynt i’w rhwystro rhag cyffwrdd â’i gilydd na gorffwys ar wal y simdde. 
  9. Yr oedd hi’n dra phwysig i gadw’r eog mewn lle sych ar ôl ei gochi ac yna gellid ei dafellu yn ôl yr angen. 
  10. Ffrio tafelli o eog coch mewn ymenyn a wneid fel rheol.

Cenarth, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.