Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Rhostio Brithyllod

Llandysul, Ceredigion

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tri neu bedwar brithyll
  • toddion cig moch
  • winwnsyn neu gennin syfi
  • ychydig o ddŵr

Dull

  1. Agor a glanhau’r brithyllod yn y dull arferol a’u sychu’n lân.  Gellir torri’r pennau a’r cynffonnau i ffwrdd, os dymunir.
  2. Rhoi’r pysgod yn rhes, ochr yn ochr, pen wrth gynffon, mewn dysgl bridd neu dun rhostio, ac arllwys ychydig o doddion cig moch wedi’u toddi mewn ychydig o ddŵr drostynt. 
  3. Torri’r winwnsyn yn dafelli ar draws, a rhoi’r ‘modrwyon’ hyn ar wyneb y pysgod.  (Os mai cennin syfi a ddefnyddir, eu torri’n fân ar wyneb y pysgod.) 
  4. Eu gorchuddio â phapur ymenyn neu gaead priodol a’u rhostio mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr. 
  5. Yna tynnu’r gorchudd oddi ar y ddysgl a gadael i’r winwns a’r pysgod gochi yn y ffwrn am ryw ddeng munud eto.

Llandysul, Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.