Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- wyth owns o flawd codi
- pedair owns o ymenyn
- pedair owns o siwgr
- owns o gyrens
- ychydig o halen
- hanner llond llwy de o sbeis cymysg
- un wy wedi’i guro
Dull
- Gogryn y blawd, yr halen a’r sbeis i ddysgl, rhwbio’r ymenyn i mewn iddynt, ac ychwanegu’r siwgr atynt.
- Gwlychu’r defnyddiau hyn â’r wy nes cael toes gweddol sych.
- Rhannu’r toes yn ddau ddarn cyfartal a gweithio’r cyrens i mewn i un ohonynt yn unig.
- Wedyn, gyrru’r ddau fath o does, ar wahân, i ryw chwarter modfedd o drwch a’u torri’n deisennau bach, crwn.
- Cynhesu’r maen a chrasu’r teisennau arno am ryw ddwy funud bob ochr.
- Hollti’r teisennau plaen drwy’u canol, os dymunir, taenu jam arnynt a’u bwyta’n gynnes.
- Hefyd, gellir llunio un dorth fawr gron o’r toes plaen a’i chrasu, yn yr un modd, ar y maen.
- Yna ei hollti drwy’r canol, a thaenu trwch o afalau wedi’u coginio a siwgr brown arni.
- Rhoi’r ddau hanner yn ôl ar ei gilydd, taenu ychydig o siwgr ar yr wyneb uchaf, a thorri’r deisen yn ddarnau bach, sgwâr.
Pont-y-clun, Morgannwg.
Ffilm/Recordiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.