Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Gwaed

Nantgarw, Rhondda Cynon Taf

Diwrnodd lladd mochyn, Maescar, tua 1900

Y Rysáit

Byddwch angen

  • gwaed mochyn ar ddiwrnod ei ladd
  • peint o ddŵr
  • ychydig o halen
  • winwns
  • llysiau cymysg i’w flasu
  • ychydig o flawd ceirch
  • perfedd mân y mochyn
  • ychydig o’r braster oddi ar berfedd mân y mochyn

Dull

  1. Arllwys y gwaed i ddysgl fawr pan fo’n gynnes a’i droi’n gyson nes ei fod wedi oeri.  (Y mae’r troi yn ei rwystro rhag mynd yn lympiau.) 
  2. Yna cymysgu peint o ddŵr ac ychydig o halen i mewn iddo a’i adael dros nos. 
  3. Golchi’r perfedd yn drwyadl (y tu mewn a’r tu allan) a’i roi i sefyll mewn dŵr a halen dros nos. 
  4. Gorchuddio’r winwns (wedi’u malu) a’r darnau o fraster â blawd ceirch, eu blasu â’r llysiau a’u cymysgu i mewn i’r gwaed oer.
  5. Rhoi’r cymysgedd hwn i mewn yn y perfedd mân, clymu’r ddeupen â llinyn gan adael rhyw gymaint o le i’r pwdin chwyddo wrth ei fod yn berwi.
  6. Berwi’r pwdin mewn sosban fawr am ryw hanner awr ac yna ei hongian i sychu mewn lle cyfleus.
  7. Ffrio tafell neu ddwy o’r pwdin gyda chig moch yn ôl yr angen.

Nantgarw, Morgannwg.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.