Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Welsh Cakes

Pennant, Powys

Ychwanegu llaeth enwyn i'r gymysgedd.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • chwe owns o lard
  • hanner llond llwy de o halen
  • llond cwpan te o siwgr
  • llond cwpan te o gyrens
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • hanner peint o laeth enwyn sur

Dull

  1. Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, a’u gwlychu â’r llaeth enwyn (a’r soda pobi wedi’i doddi ynddo) i wneud toes meddal.
  2. Gyrru’r toes â rholbren i ryw chwarter modfedd o drwch a’i dorri’n deisennau crwn.
  3. Eu crasu ar y ddwy ochr ar radell neu badell ffrio, wedi’i hirio a’i chynhesu ymlaen llaw.

Pennant, Maldwyn.

Ffilm/Recordiad

Mae teisennau crwn fel hyn wedi bod yn un o hoff brydau amser te'r Cymry ers hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn gyffredinol, gelwid y danteithion yn unol a'r enw arferid ar y maen neu'r radell o ardal i ardal; gan gynnwys, tishan lechwan, tishan ar y mân, pica bach neu gacenni cri. Welsh cakes yw'r term cyffredin yn y Saesneg. Dyma Rhian Gay yn arddangos sut i baratoi fersiwn cyfoes.

Mrs Annie Jones, Blaenau, Llanwrda, Dyfed yn gwneud pice bach, 1975

Richard Griffith Thomas o Langynwyd, Morgannwg yn disgrifio'r maen a'r tripat. Ganed Mr Thomas ym 1894.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.